MOTHER'S DAY SPECIALS! SHOW ME MORE

Close Notification

Your cart does not contain any items

Y Flwyddyn Cadw Gwenyn

Lynfa Davies Paterson

$26.95   $23.94

Paperback

Not in-store but you can order this
How long will it take?

QTY:

English
Northern Bee Books
24 May 2024
Mae cadw gwenyn yn ddiddordeb hynod ddiddorol a gwerth chweil gyda digonedd i'w ddysgu, ond i'r rhai sy'n dechrau cadw gwenyn o'r newydd, mae dod â phopeth ynghyd yn gallu bod yn anodd. Yn y llyfr hwn, bydd Lynfa Davies, NDB, yn eich tywys drwy flwyddyn o gadw gwenyn fesul mis. Bydd yn amlinellu'r hyn y dylech ei ddisgwyl bob mis, a'r prif dasgau angenrheidiol gyda'r nod o sicrhau eich bod chi gam o flaen eich gwenyn.

Mae'r llyfr hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr a'r rhai sydd wedi dechrau cadw gwenyn ers ychydig flynyddoedd, a bydd yn eich helpu i ddeall yr hyn mae eich gwenyn yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn a'r hyn sydd angen i chi ei wneud i'w rheoli. O archwiliadau hyd at fwydo a rheoli clefydau, bydd y canllaw hwn yn rhoi'r hyder i chi ofalu am eich gwenyn yn dda a'u cadw'n iach, ac efallai y byddant yn eich gwobrwyo gydag ychydig o fêl.
By:  
Designed by:  
Imprint:   Northern Bee Books
Dimensions:   Height: 235mm,  Width: 191mm,  Spine: 5mm
Weight:   168g
ISBN:   9781914934803
ISBN 10:   1914934806
Pages:   66
Publication Date:  
Audience:   General/trade ,  ELT Advanced
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active

Meistr mewn Gwenyna, NDB.Mae Lynfa'n cadw gwenyn gyda Rob, ei gŵr, ers 2005. Yn ystod y cyfnod hwn mae hi wedi gwneud nifer o swyddi gyda Chymdeithas Gwenynwyr Cymru (CGC) gan gynnwys bod yn Ysgrifennydd Cyffredinol ac yn Ysgrifennydd Arholiadau. Ar hyn o bryd mae hi'n aelod o'r Pwyllgor Dysgu a Datblygiad ac mae hi'n ymwneud â datblygu a chyflwyno cyrsiau a gweithdai i wenynwyr ledled Cymru. www.sipat.co.uk

See Also