LATEST DISCOUNTS & SALES: PROMOTIONS

Close Notification

Your cart does not contain any items

Adrodd ar Dlodi

Naratif y Cyfryngau Newyddion a Chyfathrebiadau'r Trydydd Sector yng Nghymru

Kerry Moore

$28.95   $26.46

Paperback

Not in-store but you can order this
How long will it take?

QTY:

Welsh
Ubiquity Press (Cardiff University Press)
26 November 2020
Mae'r llyfr hwn yn cyflwyno ymchwiliad manwl a systematig ar adrodd am dlodi yng Nghymru, gan drafod canfyddiadau prosiect ymchwil dwy flynedd o hyd a ariannwyd gan 'Exploring the Narrative Coalition' (grŵp o 10 sefydliad trydydd sector sydd wedi'u lleoli yng Nghymru. yr ESRC a Phrifysgol Caerdydd. Gan archwilio sut y mae newyddion am dlodi yn cael sylw gan newyddion darlledu, print ac ar-lein yn Saesneg ac yn Gymraeg, mae'n rhoi dealltwriaeth manwl o arferion presennol newyddiaduraeth a chyfathrebu ar fater hollbwysig sy'n wynebu Cymru.

Yn sgil degawd o bolisïau cyni, gyda mesurau swyddogol yn cadarnhau bod profiadau o dlodi ac amddifadedd ar gynnydd, mae'r llyfr yn cynnig ymyriad amserol, gan ymchwilio'n feirniadol i naratifau'r cyfryngau prif ffrwd ar dlodi a sut y maent yn cael eu siapio. Mae'r llyfr hwn yn seiliedig ar ymchwil gwreiddiol a gynhaliwyd rhwng 2016-7, yn ystod cyfnod helbulus sy'n cynnwys argyfwng Tata Steel ym Mhort Talbot. De Cymru, etholiadau Llywodraeth Cymru ac ymgyrch refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymdrin â sut y cafodd tlodi ei fframio ynghanol newyddion o bwys cenedlaethol ynghylch gwleidyddiaeth, busnes ac economi yn ogystal â straeon mwy lleol, personol neu o bwys i'r gymuned ynghylch bywoliaeth a materion cymdeithasol.

Mae dadansoddiad meintiol o nodweddion allweddol yr ymdriniaethau ar draws mathau o gyfryngau gwahanol yn cynnig sylfaen dystiolaeth manwl ar gyfer deall sut y cafodd newyddion ynghylch tlodi ei gynrychioli. Mae hyn yn cynnwys edrych ar y themâu cyd-destunoli mawr, grwpiau cymdeithasol a lleoliadau daearyddol sy'n cael sylw yn aml, achosion a chanlyniadau tlodi, a chyrchu gwybodaeth. Mae'n arddangos sut mae'r cyfryngau yng Nghymru yn ymateb yn wahanol i'r adroddiadau mwy negyddol sy'n nodweddiadol o rai adrannau gwasg genedlaethol y DU, yn enwedig o ran disgyrsiau sy'n achosi stigma ynghylch diweithdra a lles. Serch hynny, ceir cwestiynau pwysig eu codi ynghylch sut mae naratifau newyddion yn cyfleu ystyr ac yn enwedig y datgysylltiad rhwng y sylw a roddir i dueddiadau neu ddigwyddiadau macro-economaidd a'u heffaith ar fywydau pobl gyffredin.

Yn ogystal, mae'r llyfr yn archwilio pam fod y sylw a roddir i newyddion am dlodi yn cael ei lunio fel ag y mae, gan ddefnyddio canfyddiadau cyfweliadau manwl gyda newyddiadurwyr a golygyddion am eu harferion. Drwy olwg gwerthoedd a phrofiadau proffesiynol, mae'r llyfr yn ymchwilio'r heriau sy'n debygol o effeithio ar adrodd am dlodi. Ymhlith y materion allweddol mae defnyddio adnoddau ac arbenigedd arbenigol a ddyrennir i newyddiaduraeth materion cymdeithasol, yr anawsterau o ran adnabod a chyrraedd o bosibl grwpiau agored i niwed ledled Cymru a chynrychioli astudiaethau achos yn deg ac yn foesegol. Cynhaliwyd set o gyfweliadau gyda gweithwyr trydydd sector proffesiynol ynghylch eu hymgysylltiad gydag arferion y cyfryngau newyddion a chysylltiadau. Maent yn cynnig mwy o wybodaeth am sut y caiff newyddion am dlodi ei lunio. Yma, ystyrir y pwysau o ran adrodd am dlodi o bersbectif gwahanol, lle gall ceisio dylanwadu sylw tlodi yn y wasg ac ymateb i ofynion newyddion greu tensiynau proffesiynol rhwng newyddiadurwyr a'r trydydd sector a/neu perthnasau cydweithredol cynhyrchiol positif sy'n effeithio ar naratifau'r newyddion.

Drwy gynnig llun manwl o sut a pham mae naratifau newyddion tlodi wedi'u siapio fel ag y maent, mae'r llyfr yn bwriadu creu sail dystiolaeth fydd yn llywio'r gwaith o adrodd am dlodi yn fwy cywir, cynrychioladol ac ystyrlon yng Nghymru.

By:  
Imprint:   Ubiquity Press (Cardiff University Press)
Dimensions:   Height: 229mm,  Width: 152mm,  Spine: 9mm
Weight:   227g
ISBN:   9781911653196
ISBN 10:   1911653199
Pages:   162
Publication Date:  
Audience:   General/trade ,  ELT Advanced
Format:   Paperback
Publisher's Status:   Active

Mae Dr Kerry Moore yn Uwch Ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd ac yn arwain y prosiect ymchwil 'Archwilio naratif y cyfryngau newyddion ar dlodi'. Mae ei hymchwil yn ystyried anghyfiawnder cymdeithasol yn y cyfryngau a'r drafodaeth wleidyddol, gan gynnwys sylw yn y cyfryngau newyddion ar fudo, anghydraddoldeb economaidd a chynrychioliadau o hiliaeth.

See Also